Annwyl gyfaill,

Galwad am wybodaeth – cynigion ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Mae Pwyllgorau Senedd Cymru yn ceisio gwybodaeth i lywio eu gwaith craffu ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran Cyllideb 2023-24, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol ac effaith Cyllideb 2022-23.

Mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ym mis Hydref.  Fodd bynnag, hon fydd y bedwaredd flwyddyn yn olynol lle y gohiriwyd ei chyhoeddi, tan ar ôl digwyddiad cyllidol hydref Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu cyhoeddi’r Cyllidebau amlinellol drafft a’r Cyllidebau manwl drafft gyda’i gilydd erbyn 13 Rhagfyr 2022 fan bellaf, a’r Gyllideb derfynol ar 28 Chwefror 2023.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar Gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Senedd i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer adrannau neu bortffolios cabinet penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal eu sesiynau eu hunain i ganolbwyntio ar dystiolaeth er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y Gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy. Gellir cael manylion pellach am Bwyllgorau’r Senedd a phroses y gyllideb yn Atodiad 1

Yn y papur hwn, nodir cwestiynau penodol yn Atodiad 2. Gallwch ateb unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau, neu gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn yn gyffredinol ar y Gyllideb Ddrafft.

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi cynnal nifer o weithgareddau ymgysylltu, gan geisio barn unigolion a sefydliadau ar feysydd y dylid eu blaenoriaethu yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae’r safbwyntiau hyn wedi’u hadlewyrchu yn adroddiad ymgysylltu'r Pwyllgora helpodd i lywio dadl yn y Cyfarfod Llawn dan arweiniad y Pwyllgor ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2022.

Datgelu gwybodaeth

Cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y polisi'r Senedd ar ddatgelu gwybodaeth. Fel arall, gellir gofyn am gopi caled o'r polisi hwn trwy gysylltu â'r Clerc, Owain Roberts (0300 200 6388 seneddcyllid@senedd.cymru).

 

 

Rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid, erbyn dydd Gwener 18 Tachwedd 2022. Os hoffech gyfrannu ond eich bod yn pryderu na fyddwch yn gallu cyflwyno eich tystiolaeth erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor ar 0300 200 6388.

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.

Mae canllawiau ar gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ymgynghoriadau’r Pwyllgor ar gael ar wefan y Senedd.

Yn gywir,

Peredur Owen Griffiths AS
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.


 

Atodiad 1 – Gwybodaeth gefndir

Pwy ydyn ni?

Pwyllgor trawsbleidiol yn Senedd Cymru  yw’r Pwyllgor Cyllid sy’n cynnwys Aelodau o blith y tair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd.

Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am adrodd ar gynigion a roddwyd gerbron Senedd Cymru gan Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau.

Pa Bwyllgorau eraill sy’n craffu ar y Gyllideb?

Dyma’r Pwyllgorau eraill sy’n cynnal gwaith craffu ar y Gyllideb:

-        Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

-        Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

 

-        Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

 

-        Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

 

-        Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

 

-        Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

-        Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

-        Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Beth yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru?

Rhaid i gynigion y Gyllideb Ddrafft gynnwys manylion ynghylch faint o adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol a ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl hynny. Yn fwy penodol, dylai amlinellu gwybodaeth ynghylch:

·         y defnydd o adnoddau ac arian parod i'w dynnu o Gronfa Gyfunol Cymru gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Senedd, Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

·         sut y bydd cynigion gwariant yn cael eu hariannu, gan gynnwys cynlluniau trethiant a benthyca.

·         Incwm sydd i'w gadw gan y sefydliadau hynny (yn hytrach na chael ei ildio i Gronfa Gyfunol Cymru).

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dogfen naratif sy'n nodi dyraniadau o fewn adrannau, sut mae cynigion yn cyd-fynd â blaenoriaethau a'r canlyniadau a ddymunir. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu rhagolygon o drethi, benthyca a dyled.

Pam nad ydym yn cyhoeddi’r ymgynghoriad hwn ar ôl i gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi?

Ni fydd ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn eithrio rhanddeiliaid rhag hefyd ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth, pryderon ac awgrymiadau ynghylch meysydd craffu posibl i bwyllgorau Senedd Cymru ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynigion amlinellol a manwl ynghylch y Gyllideb Ddrafft.

Fodd bynnag, mae’r amser sydd ar gael i randdeiliaid awgrymu meysydd pryder i’r pwyllgorau yn brin iawn ar ôl i fanylion y Gyllideb Ddrafft gael eu cyhoeddi. Wrth gynnal yr ymgynghoriad yn awr, gobeithiwn y bydd gan randdeiliaid ragor o amser i ystyried effaith bosibl y Gyllideb.


 

 

Atodiad 2

Cwestiynau’r ymgynghoriad

1. Beth, yn eich barn chi, fu effaith Cyllideb 2022-23 Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyllid sy’n gysylltiedig ag adfer o’r pandemig? A yw polisïau cymorth busnes Llywodraeth Cymru wedi bod yn effeithiol wrth i’r rhagolygon economaidd ar gyfer 2023-24 barhau i waethygu?

2. Sut y dylai/gallai Llywodraeth Cymru gefnogi’r economi a busnes yn dilyn y pandemig, Brexit a chwyddiant a phwysau economaidd eraill?

-        Pa mor barod yn ariannol yw’ch sefydliad ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24, sut mae chwyddiant yn effeithio ar eich gallu i gyflawni amcanion a gynlluniwyd, a pha mor gadarn yw’ch gallu i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod?

3. Gyda chwyddiant a materion costau byw yn parhau i gynyddu, pa gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu aelwydydd i ymdopi â’r argyfwng diweddaraf hwn?

-        Sut y dylai’r Gyllideb fynd i’r afael ag anghenion pobl sy’n byw mewn cymunedau trefol, ôl-ddiwydiannol a gwledig ac wrth gefnogi economïau o fewn y cymunedau hynny?

4. A yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu economi wyrddach yn glir ac yn ddigon uchelgeisiol? A ydych chi’n meddwl bod digon o fuddsoddiad yn cael ei dargedu at fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd a natur? A oes unrhyw fylchau sgiliau posibl y mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn cyflawni’r cynlluniau hyn?

6. A yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r mecanweithiau ariannol sydd ar gael iddi o ran benthyca a threthiant?

7. Hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar nifer o feysydd penodol eraill wrth graffu ar y Gyllideb. A oes gennych unrhyw sylwadau penodol ar unrhyw un o’r meysydd a nodir isod?

-        Polisïau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. A oes digon o gymorth yn cael ei roi i’r bobl hynny sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol?

-        Sut/p’un a yw’r dull gweithredu o ran gwariant ataliol yn cael ei gynrychioli wrth ddyrannu adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy’n canolbwyntio ar atal problemau a lliniaru'r galw am wasanaethau yn y dyfodol, drwy ymyrryd yn gynnar).

-        Sut y dylid blaenoriaethu adnoddau i fynd i’r afael â rhestrau aros y GIG ar gyfer triniaethau GIG wedi’u cynllunio a thriniaethau nad ydynt yn rhai brys. A ydych yn meddwl bod gan Lywodraeth Cymru gynllun cadarn i fynd i’r afael â’r mater hwn?

-        Cynaliadwyedd y GIG, gofal cymdeithasol, addysg bellach ac uwch, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn fwy cyffredinol. A yw Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth digonol i’r sector cyhoeddus i’w alluogi i fod yn arloesol ac yn flaengar drwy bethau fel cynllunio’r gweithlu.

-        A fu buddsoddiad digonol gan Lywodraeth Cymru yn seilwaith sylfaenol y sector cyhoeddus.

-        Cymorth i blant a phobl ifanc y mae’r pandemig wedi effeithio ar eu haddysg, datblygiad, iechyd meddwl a llesiant. A oes digon o fuddsoddiad seilwaith wedi’i dargedu at bobl ifanc?

-        P’un a yw’n glir sut mae tystiolaeth a data yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru o ran pennu blaenoriaethau a dyrannu’r gyllideb.

-        A yw cymorth i sefydliadau’r trydydd sector, sy’n wynebu galw cynyddol am wasanaethau o ganlyniad i’r argyfwng costau byw a’r pandemig, yn ddigonol?

-        Beth yw’r cyfleoedd allweddol i fuddsoddiad y Llywodraeth gefnogi ‘ailgodi’n gryfach’ (h.y. cefnogi economi a gwasanaethau cyhoeddus sy’n cyflawni'n well yn erbyn y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol)?